... Llyfr Aneirin yw un o'r llawysgrifau cynharaf un yn y Gymraeg. Cafodd ei llunio tua'r flwyddyn 1265, a dim ond Llyfr Du Caerfyrddin sydd fymryn yn gynharach o blith y llawysgrifau Cymraeg. Mae'n cynnw...
Sgans o Lyfr Aneirin

Llyfr Aneirin yw un o'r llawysgrifau cynharaf un yn y Gymraeg. Cafodd ei llunio tua'r flwyddyn 1265, a dim ond Llyfr Du Caerfyrddin sydd fymryn yn gynharach o blith y llawysgrifau Cymraeg (ceir rhai llawysgrifau Cymreig a ysgrifenwyd yn Lladin sy'n gynharach na'r ddau lyfr hyn). Mae'n cynnwys testun Y Gododdin gan Aneirin a sawl cerdd arall sy'n perthyn i'r 6ed ganrif efallai, er yr anghytunir am hynny.

Llawysgrif femrwn 6¾ x 5 modfedd yw hi, gyda chyfamswm o 42 tudalen ffolio, 38 ohonynt yn dwyn llawysgrifen. Ceir dwy law ynddi, bron yn gyfoes, ac mae o leiaf tri o dudalennau ffolio yn eisiau ar y diwedd. Rhwymwyd y cyfan mewn lledr croen llo du rywbryd yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol.

Ceir ychwaneg o wybodaeth am Lyfr Aeirin ar Wicipedia.

Mae erthygl am y pwnc:
Llyfr Aneirin
ar Wicipedia.




  Go to top  

This article is issued from web site Wikisource. The original article may be a bit shortened or modified. Some links may have been modified. The text is licensed under "Creative Commons - Attribution - Sharealike" [1] and some of the text can also be licensed under the terms of the "GNU Free Documentation License" [2]. Additional terms may apply for the media files. By using this site, you agree to our Legal pages [3] [4] [5] [6] [7]. Web links: [1] [2]