brenin chwedlonol ... Cymeriad sy'n ymddangos yn aml ym marddoniaeth a chwedlau Cymraeg yn y cyfnod cynnar, ac sydd hefyd yn ymddangos fel arweinydd y Brythoniaid yn ymladd yn erbyn y goresgynwyr Sacsonaidd oedd y Brenin A...
article - Y Brenin Arthur

Cymeriad sy'n ymddangos yn aml ym marddoniaeth a chwedlau Cymraeg yn y cyfnod cynnar, ac sydd hefyd yn ymddangos fel arweinydd y Brythoniaid yn ymladd yn erbyn y goresgynwyr Sacsonaidd oedd y Brenin Arthur. Cred rhai ysgolheigion fod yna Arthur go iawn wedi byw yn y cyfnod rhwng diwedd y bumed ganrif a dechrau'r chweched, tra gred eraill mai cymeriad mytholegol ydyw.

Ceir cyfeiriad at Arthur fel cymeriad hanesyddol yn yr Historia Brittonum o ran gyntaf y 9g, a briodolir i Nennius. Ceir hefyd gyfeiriadau at Arthur mewn barddoniaeth a chwedlau Cymraeg cynnar, mewn cerddi megis Preiddiau Annwn o tua 900 ac yn arbennig yn chwedl Culhwch ac Olwen, sy'n dyddio i tua 10801100.

Mae Sieffre o Fynwy yn sôn am Arthur a'r dewin Myrddin yn ei Historia Regum Britanniae ("Hanes Brenhinoedd Prydain") ym 1136. O'r adeg hon ymlaen, daeth chwedlau am Arthur yn eithriadol boblogaidd mewn llawer rhan o Ewrop. Ychwanegodd awduron Ffrengig a Normanaidd lawer o fanylion o sawl ffynhonnell, er enghraifft am y cleddyf Caledfwlch, Y Greal Santaidd a chastell Camelot. Un o'r llyfrau mwyaf enwog a dylanwadol am y Brenin Arthur yw'r Morte d'Arthur a ysgrifennwyd gan Thomas Malory yn y bymthegfed ganrif.

Mae chwedlau llên gwerin am Arthur i'w cael ledled Cymru, Cernyw a Llydaw.


  Next Page » More information about  

 Y Brenin Arthur  







  Next Page » More information about  

 Y Brenin Arthur  

This article is issued from web site Wikipedia. The original article may be a bit shortened or modified. Some links may have been modified. The text is licensed under "Creative Commons - Attribution - Sharealike" [1] and some of the text can also be licensed under the terms of the "GNU Free Documentation License" [2]. Additional terms may apply for the media files. By using this site, you agree to our Legal pages [3] [4] [5] [6] [7]. Web links: [1] [2]