... Cyflwynwraig teledu yw Sarra Elgan yn ferch i gyn-chwaraewr rygbi Castell Nedd, Cymru, a'r Llewod, Elgan Rees. Cafodd Sarra ei henwebu, ar ôl pleidlias gan y darllenwyr, yn ferch prydfertha'r Western...

Cyflwynwraig teledu yw Sarra Elgan (ganed 1979) yn ferch i gyn-chwaraewr rygbi Castell Nedd, Cymru, a'r Llewod, Elgan Rees. Cafodd Sarra ei henwebu, ar ôl pleidlias gan y darllenwyr, yn ferch prydfertha'r Western Mail yn 2006.

Magwraeth a choleg

Cafodd ei geni yng Nghastell-nedd ond bellach mae'n byw ym Mro Morgannwg gyda'i gŵr, cyn chwaraewr rygbi tîm cenedlaethol Iwerddon, Y Llewod a chyn-gapten Scarlets Llanelli, a hyfforddwr presennol blaenwyr Tim Rygbi Cenedlaethol Iwerddon sef Simon Easterby. Ganed eu merch, Soffia yn 2007 a'u mab Ffredi yn 2009.

Cafodd Sara radd dosbarth cyntaf mewn Theatr, Cerddoriaeth a'r Cyfryngau yn 1999.

Gyrfa

Dechreuodd gyrfa teledu Sarra ar strydoedd Cwm Deri yn y raglen sebon Pobol y Cwm, cyn iddi droi ei sylw at gyflwyno.

Mae Sarra'n gyflwynydd profiadol ac wedi troi ei llaw at amrywiaeth o genre, o gerddoriaeth i adloniant i chwaraeon.

Cyflwynydd ar BT Sport yw rôl diweddaraf Sarra, ond mae modd hefyd ei gweld ar Scrum V a Jonathan ar S4C.

Dros y blynyddoedd mae Sarra wedi cyflwyno llu o gyfresi o Aviva Premiership i EPSN, LV Cup a'r The British and Irish Cup, y Celtic League Rugby, Cwpan y Byd 2007, Speedway i Sky, Wakestock, Top Of The Pops Saturday (BBC1), Pop Factory (ITV1 Wales), Pop Factory Music Awards, The Saturday Show (BBC1), The Saturday Show Extra (CBBC), Xchange (CBBC), Play the Game (CITV), Bump and Grind (Trouble), Dial-a-Date (ITV) a A Song for Wales, The Wrap i BBC Wales, Passion for Fashion i HTV, Planed Plant, Bandit, Paparazzi, Rygbi 100%, Ffitrwydd 100%, cer i greu, Can i Gymru, Y Briodas Fawr, 04 Wal a Popty i S4C.

Cyfeiriadau


    Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.




      Go to top  

    This article is issued from web site Wikipedia. The original article may be a bit shortened or modified. Some links may have been modified. The text is licensed under "Creative Commons - Attribution - Sharealike" [1] and some of the text can also be licensed under the terms of the "GNU Free Documentation License" [2]. Additional terms may apply for the media files. By using this site, you agree to our Legal pages [3] [4] [5] [6] [7]. Web links: [1] [2]