... Organ cenhedlu allanol gwrywaidd yw pidyn. Mewn mamal gwrywaidd, trwy'r pidyn mae wrin yn gadael y corff yn ogystal....
Organau cenhedlu gwrywaidd
  1. pledren
  2. pwbis
  3. pidyn, cala, neu penis
  4. corpus cavernosum
  5. glans
  6. blaengroen
  7. agoriad yr wrethra
  8. coluddyn mawr
  9. rectwm
  10. fesigl semenol
  11. dwythell alldafliadol
  12. chwarren brostad
  13. Chwarren bwlbwrethral
  14. anws
  15. vas deferens
  16. epididymis
  17. caill
  18. sgrotwm

Organ cenhedlu allanol gwrywaidd yw pidyn (hefyd cala, cal neu penis). Mewn mamal gwrywaidd, trwy'r pidyn mae wrin yn gadael y corff yn ogystal.

Strwythur

Wedi codi ac ar waith

Mae tair colofn o feinwe codiadol mewn pidyn dynol: dau corpora cavernosa (unigol: corpus cavernosum) ac un corpus spongiosum. Lleolir y corpus spongiosum ar ochr isaf y pidyn, ar corpora cavernosa ar yr ochr uchaf.

Mae pen y corpus spongiosum yn eang ac yn oddfog; y glans (hefyd: 'sgetyn') ydyw. Ar du allan y glans, mae'r blaengroen, crychiad llac o groen sy'n gallu cael ei dynnu'n ôl i ddatguddio'r glans. Mae'r frenulum yn cysylltu'r blaengroen ag ochr isaf y pidyn.

Mae'r wrethra yn mynd trwy'r corpus spongiosum, ac fe leolir ei agoriad, y meatus, ar ben eithaf y glans. Trwy'r wrethra'r alldeflir semen, a thrwyddo mae wrin yn llifo wrth adael y corff. Cynhyrchir sberm yn y ceilliau, a chaent eu storio yn yr epididymis.

Mewn rhai mamolion, mae yna asgwrn codiad, y baculum. Nid oes asgwrn yn y pidyn dynol, yn hytrach, ceir codiad wrth iddo lenwi â gwaed. O gymharu â màs y corff, mae'r pidyn dynol yn fwy na'r hyn a geir yn gyfartalog ymysg anifeiliaid.

Y glasoed

Wrth i hogyn gychwyn y glasoed, wedi i'r ceilliau cychwyn ddatblygu, mae'r pidyn a gweddill yr organau cenhedlu yn cychwyn tyfu. Yn gydamserol, mae blew cedor yn tyfu uwchben ac o gwmpas y pidyn.

Maint

Er bod amrywiaeth mawr rhwng astudiaethau, a'u bod yn annigonol braidd, cytunir yn gyffredinol fod cyfartaledd hyd y pidyn mewn cyflwr o godiad llawn rhwng 12.7 cm a 15cm. Mae yna wahaniaethau yn y maint cyfartalog o le i le yn y byd, a rhwng pobl o wahanol hil.

Fel gyda sawl priodwedd gorfforol arall, mae hyd a lled y pidyn yn amrywio'n fawr rhwng unigolion. Mae maint y pidyn llipa yn llai na maint pidyn codedig o lawer. Yn ogystal, mae'r gwahaniaeth rhwng maint y pidyn yn ei gyflyrau llipa a chodedig yn amrywio cymaint, fel na ellir darogan y maint codedig o wybod y maint llipa. Ac eithrio achosion eithafol, does dim cydberthyniad rhwng gallu atgenhedliol neu rywiol a maint y pidyn.

Mewn llenyddiaeth Gymraeg

Ysgrifennodd y bardd enwog Dafydd ap Gwilym am y pidyn ("y gal") yn ei gerdd enwog, Cywydd y gal. Yn y gerdd mae'n rhestru llawer o gyfystyron ar gyfer y pidyn. Yn awdl arobryn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yr Wyddgrug 1991 canodd y Prifardd Robin Llwyd ab Owain hefyd am y pidyn gan ei gymharu i: gleddyf ('Clun ynglŷn, gweinied fy nghledd' ), 'pinwydden' a 'choeden'.

Oriel

Pidyn dynol yn y cyflwr codedig
Pidyn dynol yn y cyflwr codedig 
Pidyn gyda blaengroen byr
Pidyn gyda blaengroen byr 
pidyn eliffant
pidyn eliffant 

Gweler hefyd

Chwiliwch am pidyn
yn Wiciadur.




  Go to top  

This article is issued from web site Wikipedia. The original article may be a bit shortened or modified. Some links may have been modified. The text is licensed under "Creative Commons - Attribution - Sharealike" [1] and some of the text can also be licensed under the terms of the "GNU Free Documentation License" [2]. Additional terms may apply for the media files. By using this site, you agree to our Legal pages [3] [4] [5] [6] [7]. Web links: [1] [2]