... Cymhwysiad egwyddorion gwyddonol a mathemategol i ddatblygiad datrysiadau i broblemau technegol yw peirianneg, ac felly creu cynnyrch, cyfleusterau, ac adeiladwaith sy'n ddefnyddiol i bobl....
Peiriant ager Watt

Cymhwysiad egwyddorion gwyddonol a mathemategol i ddatblygiad datrysiadau i broblemau technegol yw peirianneg, ac felly creu cynnyrch, cyfleusterau, ac adeiladwaith sy'n ddefnyddiol i bobl.

Crewyd cryn dipyn o amwysedd yn yr agwedd Brydeinig at y pwnc gan yr arferir y gair "Engineering" am y maes, gair sydd yn cyfleu syniad o rywun sydd yn gweithio gyda peiriannau budron. Yn Ffrainc defnyddir y gair "Ingenieur" sydd yn cyfleu syniad o ddyfeisgarwch - syniad sydd yn gweddu'n well i'r gwaith ar level broffesiynnol. Gan y cyreirir yn aml at y crefftwyr sydd yn trwsio peiriannau fel injenni golchi fel "engineers" nid yw hyn yn codi statws y peiriannydd professiynnol. Efallai mae'r Sieineeg sydd orau gan mai'r gair a ddefnyddir yno yw 工程师(gong1cheng2shi1) sy'n golgu meistr prosiect.

Er fod y maes yn un hen iawn - peiriannwyr a gododd pyramidau'r Aifft - yn y maes milwrol yn bennaf bu y rhelyw o brosiectau mawr. Dyma sydd wrth wraidd y term "Peiriannydd Suful (Civil Engineer)", lle y mae'r gair "suful" yn golygu mai gweithio y tu allan i'r maes milwrol y mae'r peiriannydd. Corff proffesiynnol peiranyddion suful yw'r ICE (gweler .

Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol daeth y Peiriannydd Mecanyddol i'r blaen a dyma'r adeg y sefydlwyd yr IMechE, corff proffesiynol peirianyddion mecanyddol (gweler .

Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol aed ati i wella technegau cynhyrchu. Un o'r peiriannyddion mwyaf blaenllaw yr adeg honno oedd Richard Roberts o Garreghofa a wnaeth lawer i wella safon peirianneg manwl trwy ddatblygu y turn a peiriannau tebyg.

Yn ddiweddarach sefydlwyd cyrff eraill ar gyfer peirianeg trydanol, electronic, cynhyrchu, acwsteg ac ati.

Mae gwaith y peiriannydd proffesiynnol (yn aml yn beiriannydd siartredig) yn gymysgedd o wyddoniaeth, mathemateg a busnes. Rhaid iddo/iddi gadw llygad ar gost prosiect, boed yntau (neu hithau) yn gweithio yn y sector breifat ynteu'r sector gyhoeddus.

Ceir hefyd y peiriannwr ymgynghorol sydd yn cynghori ar faterion yn ei faes, gan amlef mewn adroddiad. Un o'r cwmniau mwyaf blaenllaw yn y maes hwn ydyw cwmni Atkins.

Eginyn erthygl sydd uchod am dechnoleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato




  Go to top  

This article is issued from web site Wikipedia. The original article may be a bit shortened or modified. Some links may have been modified. The text is licensed under "Creative Commons - Attribution - Sharealike" [1] and some of the text can also be licensed under the terms of the "GNU Free Documentation License" [2]. Additional terms may apply for the media files. By using this site, you agree to our Legal pages [3] [4] [5] [6] [7]. Web links: [1] [2]