... Prif dref Swydd Wexford yn ne-ddwyrain Gweriniaeth Iwerddon yw Loch Garman. Saif heb fod ymhell o borthladd Rosslare, ar ochr ddeheuol aber Afon Slaney. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 18,163....
article - Loch Garman

Prif dref Swydd Wexford yn ne-ddwyrain Gweriniaeth Iwerddon yw Loch Garman (Saesneg: Wexford). Saif heb fod ymhell o borthladd Rosslare, ar ochr ddeheuol aber Afon Slaney. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 18,163.

Adfeilion Abaty Selskar.

Sefydlwyd y dref gan y Llychlynwyr tua OC 800; daw'r enw Saesneg o'r Hen Norseg Veisafjǫrðr neu Waes Fiord. Ffôdd Gruffudd ap Cynan yma am loches ar ôl colli Brwydr Bron yr Erw. Yn 1169, cipiwyd y dref gan Dermot MacMurrough a'i gyngheiriad Normanaidd Robert Fitz-Stephen, mab Nest ferch Rhys ap Tewdwr. Yn y Canol Oesoedd, roedd yn sefydliad Seisnig, ac roedd hen ffurf o Saesneg a adwaenid fel "Yola" yn cael ei siarad yno hyd y 19g.

Cipiwyd y dref gan fyddin Oliver Cromwell yn 1649; llosgwyd rhan helaeth o'r dref a lladdwyd llawer o'r trigolion. Yn ystod Gwrthryfel Gwyddelig 1798, cipiwyd y dref gan y gwrthryfelwyr.

Brodorion o Loch Garman oedd teulu Redmond, fu a rhan bwysig yng ngwleidyddiaeth Iwerddon yn y 19g a dechrau'r 20g. Y mwyaf adnabyddus ohonynt yw John Redmond, a ddaeth yn arweimydd Y Blaid Seneddol Wyddelig. Cynhelir Gŵyl Opera yno bob hydref.


  Next Page » More information about  

 Loch Garman  







  Next Page » More information about  

 Loch Garman  

This article is issued from web site Wikipedia. The original article may be a bit shortened or modified. Some links may have been modified. The text is licensed under "Creative Commons - Attribution - Sharealike" [1] and some of the text can also be licensed under the terms of the "GNU Free Documentation License" [2]. Additional terms may apply for the media files. By using this site, you agree to our Legal pages [3] [4] [5] [6] [7]. Web links: [1] [2]