gwlad yng ngorllewin Asia ... ran. Hyd at 1935 fe'i galwyd yn Persia. Y gwledydd cyfagos yw Pacistan ac Affganistan i'r dwyrain, Tyrcmenistan i'r gogledd-ddwyrain, Aserbaijan ac Armenia i'r gogledd-orllewin, a Thwrci ac Irac i'r g...
article - Iran

Gwlad yng ngorllewin Asia sy'n cael ei chyfri'n rhan o'r Dwyrain Canol yw Gweriniaeth Islamaidd Iran (Persieg: جمهوری اسلامی ايران, sy'n cael ei lefaru fel [dʒomhuːɾije eslɒːmije iːɾɒn]), neu Iran. Hyd at 1935 fe'i galwyd yn Persia. Y gwledydd cyfagos yw Pacistan ac Affganistan i'r dwyrain, Tyrcmenistan i'r gogledd-ddwyrain, Aserbaijan ac Armenia i'r gogledd-orllewin, a Thwrci ac Irac i'r gorllewin. Mae gan y wlad arfordir ar Fôr Caspia yn y gogledd ac ar y Gwlff a Gwlff Oman yn y de. Tehran yw prifddinas y wlad, a'r ddinas fwyaf. Ers y Chwyldro Islamaidd yn 1979 mae Iran yn Weriniaeth Islamaidd.

Mae Iran yn gartref i un o wareiddiadau hyna'r byd,, gan ddechrau gyda ffurfiad teyrnasoedd yr Elamite yn y bedwaredd mileniwm CC. Cafodd ei uno gyntaf gan y Mediaid yn y 7g CC, a a thyfodd i'w hanterth (yn diriogaethol) yn y 6g CC, pan sefydlodd Cyrus Fawr yr Ymerodraeth Achaemenid, a ddaeth yn un o'r ymerodraethau mwyaf mewn hanes a'r ymerodraeth 'superpower' gyntaf yn y byd.

Syrthiodd yr ymerodraeth i Alecsander Fawr yn y 4g CC ac fe'i rhannwyd yn sawl gwladwriaeth Hellenistig. Sefydlodd gwrthryfel yn Iran Ymerodraeth Parthian yn y 3g CC, a olynwyd yn y drydedd ganrif OC gan yr Ymerodraeth Sassanaidd, pŵer mwya'r byd am y pedair canrif nesaf. Gorchfygodd Mwslimiaid Arabaidd yr ymerodraeth yn y 7g OC, a arweiniodd at Islameiddio Iran. Wedi hynny daeth yn brif ganolfan diwylliant a dysgu Islamaidd, gyda'i chelf, llenyddiaeth, athroniaeth, a phensaernïaeth yn ymledu ar draws y byd Mwslemaidd a thu hwnt yn ystod yr Oes Aur Islamaidd. Dros y ddwy ganrif nesaf, daeth cyfres o linachoedd Mwslimaidd brodorol i'r amlwg cyn i'r Twrciaid Seljuq a'r Mongols orchfygu'r rhanbarth.

Yn y 15g, ailsefydlodd y Safavids brodorol wladwriaeth unedig Iran a hunaniaeth genedlaethol a throsi'r wlad yn Islam Shia. O dan deyrnasiad Nader Shah yn y 18g, daeth Iran yn bwer mawr yn y byd unwaith eto, ond erbyn y 19g arweiniodd cyfres o wrthdaro â Rwsia at golledion tiriogaethol sylweddol. Yn gynnar yn yr 20g cafwyd Chwyldro Cyfansoddiadol Persia. Arweiniodd ymdrechion i wladoli ei gyflenwad tanwydd ffosil gan gwmnïau’r Gorllewin at coup Eingl-Americanaidd ym 1953, a arweiniodd at fwy o reolaeth unbenaethol o dan Mohammad Reza Pahlavi a dylanwad gwleidyddol cynyddol y Gorllewin. Aeth ati i lansio cyfres bellgyrhaeddol o ddiwygiadau ym 1963. Ar ôl Chwyldro Islamaidd Iran, sefydlwyd y Weriniaeth Islamaidd bresennol ym 1979 gan Ruhollah Khomeini, a ddaeth yn Arweinydd Goruchaf cynta'r wlad.

Ystyrir yn eang bod llywodraeth Iran yn awdurdodaidd, ac mae wedi denu beirniadaeth eang am ei chyfyngiadau a'i cham-driniaeth yn erbyn hawliau dynol a rhyddid sifil, gan gynnwys honiadau o sawl ymateb treisgar i brotestiadau torfol, etholiadau annheg., a hawliau cyfyngedig i fenywod a phlant.

Caiff Iran ei hystyried yn bwer rhanbarthol a chanolig, ac mae ei lleoliad yn cael ei gyfri'n strategol ac yn ddaear-wleidyddol (geopolitaidd) ar gyfandir Asia. Mae'n aelod sefydlol o'r Cenhedloedd Unedig, yr ECO, yr OIC, ac OPEC. Mae gan y wlad gronfeydd wrth gefn enfawr o danwydd ffosil - gan gynnwys cyflenwad nwy naturiol ail-fwya'r byd a'r bedwaredd gronfa olew fwyaf. Adlewyrchir etifeddiaeth ddiwylliannol gyfoethog y wlad yn rhannol gan ei 22 Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Mae Iran yn parhau i fod yn gymdeithas luosog sy'n cynnwys nifer o grwpiau ethnig, ieithyddol a chrefyddol, a'r mwyaf ohonyn nhw yw'r Persiaid, yr Azeris, y Cwrdiaid, y Mazandaranis a'r Lurs.


  Next Page » More information about  

 Iran  







  Next Page » More information about  

 Iran  

This article is issued from web site Wikipedia. The original article may be a bit shortened or modified. Some links may have been modified. The text is licensed under "Creative Commons - Attribution - Sharealike" [1] and some of the text can also be licensed under the terms of the "GNU Free Documentation License" [2]. Additional terms may apply for the media files. By using this site, you agree to our Legal pages [3] [4] [5] [6] [7]. Web links: [1] [2]