... Cwmni cyhoeddus Americanaidd sy'n darparu gwasanaethau rhyngrwyd yw Google Inc. Ei beiriant chwilio yw'r mwyaf o ran maint a phoblogrwydd ar y we, a cheir fersiynau ar gyfer y rhan fwyaf o wledydd y b...
article - Google

Cwmni cyhoeddus Americanaidd sy'n darparu gwasanaethau rhyngrwyd yw Google Inc. Ei beiriant chwilio yw'r mwyaf o ran maint a phoblogrwydd ar y we, a cheir fersiynau ar gyfer y rhan fwyaf o wledydd y byd, mewn dros gant o ieithoedd. Mae'n defnyddio amryw o ffactorau er mwyn asesu pwysigrwydd gwefan.

Mae'r enw "Google" yn chwarae ar y gair "googol", sef 10100 (1 wedi'i ddilyn gan gant o seroau). Mae Google wedi dod yn enwog am ei ddiwylliant corfforaethol a'i gynnyrch newydd a datblygiedig, ac wedi cael effaith enfawr ar ddiwylliant ar-lein. Mae'r ferf Saesneg "google" wedi dod i olygu "i chwilio'r we am wybodaeth", ac mae "googlo" neu "gwglo" wedi ymddangos ar rai gwefannau Cymraeg fel cyfieithiad e.e. "Wyt ti wedi gwglo'r gair 'roced'?".

Un o fentrau diweddaraf Google yw buddsoddiad sylweddol, gyda In-Q-Tel (arf buddsoddi'r CIA) ac Amazon, yn y cwmni newydd Recorded Future, prosiect hel gwybodaeth arlein yn fyw trwy chwilio'n drwyadl degau o filoedd o wefannau, blogiau a chyfrifon Twitter gan gysylltu'r wybodaeth ar unwaith i greu darlun o bwy sy'n gwneud be a phwy sy'n cysylltu gyda phwy ar y rhyngrwyd.


  Next Page » More information about  

 Google  







  Next Page » More information about  

 Google  

This article is issued from web site Wikipedia. The original article may be a bit shortened or modified. Some links may have been modified. The text is licensed under "Creative Commons - Attribution - Sharealike" [1] and some of the text can also be licensed under the terms of the "GNU Free Documentation License" [2]. Additional terms may apply for the media files. By using this site, you agree to our Legal pages [3] [4] [5] [6] [7]. Web links: [1] [2]