gwlad yn Ne-Dwyrain Ewrop ... d yn ne-ddwyrain Ewrop ar Orynys y Balcanau yw Gogledd Macedonia a arfer cael ei galw yn Cyn-weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia. Newidiwyd yr enw yn swyddogol ar 12 Chwefror 2019 er mwyn cydymffurfio ...
article - Gogledd Macedonia

Gwlad yn ne-ddwyrain Ewrop ar Orynys y Balcanau yw Gogledd Macedonia a arfer cael ei galw yn Cyn-weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia (neu Gweriniaeth Macedonia). Newidiwyd yr enw yn swyddogol ar 12 Chwefror 2019 er mwyn cydymffurfio â Chytundeb Prespa drwy'r Cenhedloedd Unedig â Gwlad Groeg.

Mae'n llenwi tua 38% o diriogaeth rhanbarth hanesyddol Macedonia. Mae'n rhannu ffiniau â Serbia i'r gogledd, Bwlgaria i'r dwyrain, Gwlad Groeg i'r de ac Albania i'r gorllwein. Tan 8 Medi 1991, roedd yn rhan o Iwgoslafia. Tynnodd allan o ffederasiwn Iwgoslafia yn ddiweddarach na Slofenia a Chroatia. Ei phrifddinas yw Skopje, dinas o tua 600,000 o drigolion. Prif ddinasoedd eraill y wlad yw Bitola, Prilep, Tetovo, Kumanovo, Ohrid, Veles, Štip a Strumica. Mae poblogaeth Macedonia yn gymysg iawn. Y grŵp mwyaf yw'r Macedoniaid (Slafonaidd) (1,300,000, tua 64% o'r boblogaeth), ond mae hefyd leiafrif sylweddol Albaniaid (500,000, tua 25% o'r boblogaeth) a lleiafrifoedd llai o Dwrciaid, Sipswn a Serbiaid. Mae'r berthynas rhwng y ddau grŵp mwyaf wedi bod yn anodd ond mae'n gwella ers 2001, pryd cytunodd llywodraeth Macedonia dderbyn llu cadw heddwch o'r Cenhedloedd Unedig ac i ddatganoli grym i'r lleiafrif Albaneg. Yr iaith swyddogol yw Macedoneg.

Mae Cyn-weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia yn aelod o'r Cenhedloedd Unedig, ac yn ymgeisydd i ddod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd. Derbyniwyd cais gweriniaeth i ymaelodu â NATO ar 6 Chwefror 2019. fel rhan o'r Cytundeb drwy'r Cenhedloedd Unedig ar newid enw'r wladwriaeth i 'Gweriniaeth Gogledd Macedonia'.


  Next Page » More information about  

 Gogledd Macedonia  







  Next Page » More information about  

 Gogledd Macedonia  

This article is issued from web site Wikipedia. The original article may be a bit shortened or modified. Some links may have been modified. The text is licensed under "Creative Commons - Attribution - Sharealike" [1] and some of the text can also be licensed under the terms of the "GNU Free Documentation License" [2]. Additional terms may apply for the media files. By using this site, you agree to our Legal pages [3] [4] [5] [6] [7]. Web links: [1] [2]