... Gwlad ar lannau dwyreiniol y Môr Du yn y Cawcasws yw Georgia. Roedd hi'n rhan o'r Undeb Sofietaidd cyn ennill ei hannibyniaeth ym 1991. Y gwledydd cyfagos yw Rwsia i'r gogledd, Twrci i'r de-orllewin,...
article - Georgia

Gwlad ar lannau dwyreiniol y Môr Du yn y Cawcasws yw Georgia. Roedd hi'n rhan o'r Undeb Sofietaidd cyn ennill ei hannibyniaeth ym 1991. Y gwledydd cyfagos yw Rwsia i'r gogledd, Twrci i'r de-orllewin, Armenia i'r de ac Aserbaijan i'r dwyrain. Rhwng 1990 a 1995, yr enw swyddogol ar y wlad oedd Gweriniaeth Georgia. Tbilisi yw prifddinas y wlad.

Mae'r erthygl yma am y wlad. Am y dalaith o'r Unol Daleithiau, gweler Georgia (talaith UDA)

Cenedl-wladwriaeth ddemocrataidd unedol yw Georgia ac mae treftadaeth hanesyddol a diwyllianol hynafol ganddi. Â gwareiddiad Georgaidd yn ôl mor bell â thair mil o flynyddoedd. Yn ddiwylliannol ac yn hanesyddol, ystyrir Georgia yn rhan o Ewrop; fodd bynnag mae dosbarthu'r wlad fel un Ewropeaidd neu beidio yn dibynnu ar y ffynhonnell. Weithiau fe'i gelwir yn genedl draws-gyfandirol sy'n rhannol yn Ewrop ac yn rhannol yn Asia.


  Next Page » More information about  

 Georgia  







  Next Page » More information about  

 Georgia  

This article is issued from web site Wikipedia. The original article may be a bit shortened or modified. Some links may have been modified. The text is licensed under "Creative Commons - Attribution - Sharealike" [1] and some of the text can also be licensed under the terms of the "GNU Free Documentation License" [2]. Additional terms may apply for the media files. By using this site, you agree to our Legal pages [3] [4] [5] [6] [7]. Web links: [1] [2]