mudiad Cymreig ... Mudiad amhleidiol yw Dyfodol i'r Iaith a'i nod yw sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn rhan ganolog o fywyd Cymru a bod y Gymraeg yn parhau yn fater byw ar yr agenda wleidyddol. Mae'n fudiad pwyso a lobio ...
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolgrŵp pwyso Edit this on Wikidata
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.dyfodol.net/ Edit this on Wikidata

Mudiad amhleidiol yw Dyfodol i'r Iaith a'i nod yw sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn rhan ganolog o fywyd Cymru a bod y Gymraeg yn parhau yn fater byw ar yr agenda wleidyddol. Mae'n fudiad pwyso a lobio ac yn gweithredu drwy ddulliau cyfansoddiadol yn unig ac yn dylanwadu ar Lywodraeth Cymru, Cynghorau Sir, y pleidiau gwleidyddol, arweinwyr cyrff cyhoeddus ac eraill i roi'r Gymraeg wrth galon eu polisïau a'u gweithgareddau.

Hanes a Chefndir

Cychwynnwyd y mudiad mewn cyfarfod ym Mehefin 2012 a gynhaliwyd yng Nghanolfan Gymraeg Tŷ Tawe, Abertawe. Roedd y bwrdd cychwynnol yn cynnwys Heini Gruffudd, Simon Brooks, Richard Wyn Jones, Robat Gruffudd, Emyr Lewis, Elin Wyn a Huw Edwards.  Etholir swyddogion mewn cyfarfod cyffredinol blynyddol, lle gall unrhyw aelod fynegi barn a rhoi cynigion gerbron o ran ffocws a pholisïau'r mudiad.

Cynhaliwyd Cyfarfod Cyhoeddus cyntaf y mudiad yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morgannwg 2012 gyda Beti George, Angharad Mair ac Emyr Lewis (bardd) yn annerch.

Y Bwrdd a Staff

Cadeirydd presennol y mudiad yw Heini Gruffudd[1] ac fe gyflogir Prif Weithredwr, Ruth Richards[2] , a Swyddog Datblygu, Meinir James. Ar y bwrdd (2021) mae Eifion Lloyd Jones, Iwan Edgar, Osian Rhys, Wyn Thomas, Cynog Dafis, Robat Gruffudd, Catrin Alun, Elaine Edwards a Heini Gruffudd. Bu Beti George, Angharad Mair, Elinor Jones, a Bethan Jones Parry’n llywyddion y mudiad yn eu tro.

Cyllido

Mae’n fudiad annibynnol ac amhleidiol gyda’i unig incwm yn dod oddi wrth gyfraniadau a thâl aelodaeth unigolion a chwmnïau sy’n rhannu ei weledigaeth.

Ymgyrchu

Ers ei sefydlu mae’r mudiad wedi ymgyrchu a dylanwadu o blaid:

  • Sefydlu dwsin o Ganolfannau Cymraeg
  • Sefydlu ail sianel radio boblogaidd
  • Cael y Gymraeg yn rhan o’r broses Cynllunio Tai
  • Sefydlu Canolfan Genedlaethol Cymraeg i Oedolion
  • Rhoi pwyslais ar hyrwyddo’r Gymraeg yn gymunedol ac addysgiadol
  • Sefydlu yr egwyddor o gynllunio ieithyddol cyfannol mewn perthynas â’r Gymraeg

Mae Dyfodol i’r Iaith yn aelod o’r grŵp ymbarél Dathlu’r Gymraeg

Yn 2019 cyhoeddodd y Mudiad Cynllunio Adferiad y Gymraeg, gan Cynog Dafis, sy’n nodi blaenoriaethau’r mudiad ym maes cynllunio iaith.  Defnyddiwyd yr egwyddorion hyn pan gyhoeddwyd Troi Dyhead yn Realiti[3] – Gofynion Dyfodol i’r Iaith ar gyfer Senedd Cymru 2021-2026 yn Nhachwedd 2020 sy’n nodi gweledigaeth y mudiad ar gyfer Etholiad Senedd Cymru, 2021.

Mae Dyfodol i’r Iaith am weld y Llywodraeth yn sefydlu Awdurdod Iaith hyd braich a fydd ag adnoddau digonol i lywio dyfodol y Gymraeg.

Cyfeiriadau

  1. "Pwy ydym ni | Dyfodol i'r Iaith". Cyrchwyd 2021-06-24.
  2. "Dyfodol i'r Iaith yn penodi prif weithredwr". BBC Cymru Fyw. 2015-01-05. Cyrchwyd 2021-06-24.
  3. "Polisïau | Dyfodol i'r Iaith". Cyrchwyd 2021-06-24.

Dolenni allanol

Cyfeiriadau





      Go to top  

    This article is issued from web site Wikipedia. The original article may be a bit shortened or modified. Some links may have been modified. The text is licensed under "Creative Commons - Attribution - Sharealike" [1] and some of the text can also be licensed under the terms of the "GNU Free Documentation License" [2]. Additional terms may apply for the media files. By using this site, you agree to our Legal pages [3] [4] [5] [6] [7]. Web links: [1] [2]