gwlad a sir draddodiadol ... Un o'r gwledydd Celtaidd yw Cernyw, yn ne-orllewin Prydain. Mae hefyd yn sir hanesyddol Lloegr ac yn sir seremonïol y rhanbarth De-orllewin Lloegr, gyda'i dref gweinyddol yn Truro. Mae'n ffinio â Dy...
article - Cernyw

Un o'r gwledydd Celtaidd yw Cernyw (Cernyweg: Kernow; Saesneg: Cornwall), yn ne-orllewin Prydain. Mae hefyd yn sir hanesyddol Lloegr ac yn sir seremonïol y rhanbarth De-orllewin Lloegr, gyda'i dref gweinyddol yn Truro. Mae'n ffinio â Dyfnaint ar y tir ac yn gorwedd rhwng Môr Iwerddon a'r Môr Udd. Ystyrir Ynysoedd Syllan neu Scilly hefyd yn rhan o Gernyw.

Lleoliad Cernyw mewn perthynas â Lloegr
Baner Cernyw

Truro yw'r unig ddinas, a hefyd y brifddinas. Mae prif drefi'r wlad yn cynnwys Newquay, Bodmin, St Austell, Camborne, Redruth a Padstow. Mae Cernyw yn enwog am fod yn lle dda i fynd am wyliau am ei fod yn dwymach ar gyfartaledd nac unrhyw le arall yng ngwledydd Prydain, ac am ei fod yn lle arbennig am syrffio.

Mae Cernyw hefyd yn enwog am ei phasteiod cig a'i mwynfeydd alcam, ac am Senedd y Stanorion neu Fwynwyr sy'n dal i fynnu mai ganddi hi mae'r hawl i reoli'r wlad. Piran yw nawddsant Cernyw, a'i faner yn groes wen ar gefndir du. Mae mudiad cenedlaethol gwleidyddol yng Nghernyw, ond nid yw'r pleidiau megis Mebyon Kernow a Phlaid Genedlaethol Cernyw wedi gwneud fawr o farc hyd yma, er iddynt gipio ambell sedd ar gynghorau lleol.

Cynhelir Gorseth Kernow (Gorsedd Cernyw) yn flynyddol i hyrwyddo'r iaith Gernyweg a diwylliant Cernyw.

Mae'r Tywysog Siarl hefyd yn dal y teitl Dug Cernyw.


  Next Page » More information about  

 Cernyw  







  Next Page » More information about  

 Cernyw  

This article is issued from web site Wikipedia. The original article may be a bit shortened or modified. Some links may have been modified. The text is licensed under "Creative Commons - Attribution - Sharealike" [1] and some of the text can also be licensed under the terms of the "GNU Free Documentation License" [2]. Additional terms may apply for the media files. By using this site, you agree to our Legal pages [3] [4] [5] [6] [7]. Web links: [1] [2]