pentref a foddwyd, yng Ngwynedd ... erpwl oedd Capel Celyn. Cyn ei foddi roedd yno gymdeithas ddiwylliedig Gymraeg, gan gynnwys capel, ysgol, swyddfa bost a deuddeg o ffermydd a thir a oedd yn perthyn i bedair fferm arall. Roedd 67 o bo...
article - Capel Celyn

Pentref ger y Bala yn Sir Feirionnydd yng Nghymru a gafodd ei foddi ym 1965 i greu cronfa ddŵr (Llyn Celyn) ar gyfer trigolion Lerpwl oedd Capel Celyn ( ynganiad ). Cyn ei foddi roedd yno gymdeithas ddiwylliedig Gymraeg, gan gynnwys capel, ysgol, swyddfa bost a deuddeg o ffermydd a thir a oedd yn perthyn i bedair fferm arall. Roedd 67 o bobl yn byw yno ac roedd yn un o’r cymunedau uniaith Gymraeg olaf yn yr ardal.

Cafodd protestiadau gan bobl leol a ffigurau cyhoeddus amlwg yng Nghymru eu hanwybyddu i raddau helaeth a daeth Capel Celyn (Tryweryn) yn symbol pwerus yn yr ymgyrch dros Annibyniaeth Cymru.


  Next Page » More information about  

 Capel Celyn  







  Next Page » More information about  

 Capel Celyn  

This article is issued from web site Wikipedia. The original article may be a bit shortened or modified. Some links may have been modified. The text is licensed under "Creative Commons - Attribution - Sharealike" [1] and some of the text can also be licensed under the terms of the "GNU Free Documentation License" [2]. Additional terms may apply for the media files. By using this site, you agree to our Legal pages [3] [4] [5] [6] [7]. Web links: [1] [2]