... n ffinio â Gwlad Tai i'r gorllewin a'r gogledd-orllewin, Laos i'r gogledd-ddwyrain a Fietnam i'r dwyrain a'r de-ddwyrain. I'r de, daw wyneb yn wyneb â Gwlff Gwlad Tai. Dominyddir daearyddiaeth Cambo...
article - Cambodia

Gwlad yn ne-ddwyrain Asia yw Teyrnas Cambodia neu Cambodia. Arferai'r wlad gael ei galw'n Kampuchea ac mae ganddi boblogaeth o 14 miliwn o drigolion. Mae'n ffinio â Gwlad Tai i'r gorllewin a'r gogledd-orllewin, Laos i'r gogledd-ddwyrain a Fietnam i'r dwyrain a'r de-ddwyrain. I'r de, daw wyneb yn wyneb â Gwlff Gwlad Tai. Dominyddir daearyddiaeth Cambodia gan yr Afon Mekong a'r Tonlé Sap ("y llyn dŵr ffres"), ffynhonnell bwysig o bysgod.

Y Khmeriaid yw'r grŵp ethnig mwyaf a Bwdhaeth yw'r brif grefydd. Y brifddinas a'r ddinas fwyaf yw Phnom Penh. Cambodia yw'r dalaith olynol i'r Ymerodraeth Khmer Hindw a Bwdhaidd, a reolodd y mwyafrif o'r Penrhyn Indo-Tsieiniaidd rhwng y 11g a'r 14g.

Gan amlaf, disgrifir person o Gambodia fel "Cambodiad" neu "Khmer", er caiff yr ail derm ei ddefnyddio pan yn disgrifio Khmeriaid ethnig yn unig. Mae'r rhan fwyaf o Gambodiaid yn Fwdistiaid Theravada o dras Khmer, er bod gan y wlad niferoedd sylweddol o Fwslemiaid Cham, yn ogystal a Tsieiniaid, Fietnamiaid a llwythi bychan o'r mynyddoedd.

Prif ddiwydiannau Cambodia yw dillad, twristiaeth ac adeiladu. Yn 2007, daeth dros 4 miliwn o dramorwyr i Angkor Wat. Yn 2005, daethpwyd o hyd o gyflenwadau o olew a nwy naturiol yn nuyfroedd tiriogaethol Cambodia, a phan fydd yr echdyniad yn cychwyn yn 2011, gallai'r arian o'r olew effeithio'n sylweddol ar economi'r wlad. Serch hynny, gallai rhan helaeth o unrhyw elw ddiweddu yn nwylo'r gwleidyddion cefnog os na fydd y sefyllfa'n cael ei fonitro'n ofalus.


  Next Page » More information about  

 Cambodia  







  Next Page » More information about  

 Cambodia  

This article is issued from web site Wikipedia. The original article may be a bit shortened or modified. Some links may have been modified. The text is licensed under "Creative Commons - Attribution - Sharealike" [1] and some of the text can also be licensed under the terms of the "GNU Free Documentation License" [2]. Additional terms may apply for the media files. By using this site, you agree to our Legal pages [3] [4] [5] [6] [7]. Web links: [1] [2]