tref yn Ne Cymru ... 13 km) i'r gogledd o aber yr afon; mae hefyd yn gymuned. Yng Nghyfrifiad 2011 roedd ganddi boblogaeth o 14,185 ac mae ei harwynebedd yn 2,110hr. Yn ôl cyngor y dref, Caerfyrddin yw'r dref hynaf yng ...
article - Caerfyrddin

Caerfyrddin (Saesneg: Carmarthen) yw tref sirol Sir Gaerfyrddin, Cymru, tref a saif ar lan Afon Tywi rhyw 8 milltir (13 km) i'r gogledd o aber yr afon; mae hefyd yn gymuned. Yng Nghyfrifiad 2011 roedd ganddi boblogaeth o 14,185 ac mae ei harwynebedd yn 2,110hr. Yn ôl cyngor y dref, Caerfyrddin yw'r dref hynaf yng Nghymru; gwyddom i waliau'r dref gael eu codi oddeutu OC. Mae ganddi nifer o safleoedd treftadaeth sydd wedi goroesi dros y blynyddoedd; mae rhain yn cynnwys yr amffitheatr Rufeinig a rheilffordd y Gwili. Mae gan yr ardal gyfran uchel o siaradwyr Cymraeg ac mae'r ardal yn gartref i bencadlys Heddlu Dyfed-Powys, pencadlys y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Cyngor Sir Gaerfyrddin, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, campws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ac Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru. Yn 2014 penderfynwyd adleoli swyddfeydd S4C i Gaerfyrddin.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw Simon Hart (Ceidwadwr).


  Next Page » More information about  

 Caerfyrddin  







  Next Page » More information about  

 Caerfyrddin  

This article is issued from web site Wikipedia. The original article may be a bit shortened or modified. Some links may have been modified. The text is licensed under "Creative Commons - Attribution - Sharealike" [1] and some of the text can also be licensed under the terms of the "GNU Free Documentation License" [2]. Additional terms may apply for the media files. By using this site, you agree to our Legal pages [3] [4] [5] [6] [7]. Web links: [1] [2]