ieithoedd Celtaidd hynafol Prydain, hynafiaeth i'r Gymraeg, Cernyw, Llydaweg a Chymbric ... Hen iaith P-Celteg a siaradwyd ym Mhrydain oedd Brythoneg. Hi oedd iaith a siaradwyd gan y bobl o'r enw'r Brythoniaid....
article - Brythoneg
Am ddefnyddiau eraill, gweler Brythoneg (gwahaniaethu).

Hen iaith P-Celteg a siaradwyd ym Mhrydain oedd Brythoneg (hefyd a elwir yn Brittonic, Hen Frythoneg neu Frythoneg Gyffredin). Hi oedd iaith a siaradwyd gan y bobl o'r enw'r Brythoniaid.

Math o Gelteg Ynysig ydyw Brythoneg, a darddodd gyda Phroto-Celteg, proto-iaith (h.y., tarddiad) damcaniaethol a ddechreuodd ddargyfeirio i mewn i dafodieithoedd neu ieithoedd gwahanol yn ystod hanner cyntaf y mileniwm cyntaf. Erbyn y 6g o'r Cyfnod Cyffredin, rhannodd Brythoneg i mewn i bedair iaith wahanol: Cymraeg, Llydaweg, Cernyweg, a Chymbrieg. Gelwir yr ieithoedd hyn yn ieithoedd Brythonaidd gyda'i gilydd. Mae tipyn o dystiolaeth i ddweud efallai roedd gan Bicteg gysylltiadau gyda Brythoneg a gallai efallai hefyd fod yn bumed gangen.

Mae tystiolaeth o'r Gymraeg yn dangos dylanwad o'r Lladin ar Frythoneg yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid, yn enwedig mewn termau sy'n gysylltiedig â'r eglwys Gristnogol a Christnogaeth, sydd bron i gyd yn ddeilliadau Lladin. Disodlwyd y Frythoneg yn yr Alban a'r de o Foryd Forth gan Aeleg yr Alban a'r Saesneg (a ddatblygodd fan hyn i mewn i Sgoteg), ond goroesodd hi hyd at y Canol Oesoedd yn Ne'r Alban a Cumbria — gweler Cymbrieg. Disodlodd y Frythoneg ar raddfa weddol gyson gan y Saesneg ledled Lloegr; yn y gogledd, diflannodd y Gymbrieg erbyn y 13eg canrif ac, yn y de, yr oedd Cernyweg yn iaith farw erbyn y 19eg canrif, ond bu ceisiadau i'w hadfywio. Model hanesyddol O'Rahilly yn awgrymu efallai'r oedd iaith Frythonaidd yn Iwerddon cyn i'r ieithoedd Goidelig ymddangos, ond nid ydyw'r farn hon yn boblogaidd ymhlith ymchwilwyr eraill.


  Next Page » More information about  

 Brythoneg  







  Next Page » More information about  

 Brythoneg  

This article is issued from web site Wikipedia. The original article may be a bit shortened or modified. Some links may have been modified. The text is licensed under "Creative Commons - Attribution - Sharealike" [1] and some of the text can also be licensed under the terms of the "GNU Free Documentation License" [2]. Additional terms may apply for the media files. By using this site, you agree to our Legal pages [3] [4] [5] [6] [7]. Web links: [1] [2]